Adeiladau mileniwm, Mewn ffug aliminiwm, Goruwch-ystafelloedd Am hanner miliwn o bunnoedd. Tyfwn adenydd Tra'n yfed Ymennydd, Mewn tafarndai thema A dim golwg o'r Wyddfa
Dw i'n byw a bod Dw i'n byw a bod Arnofio yn y bae yn y baw a'r dod
Coffi ewynnol, Cyflog derbyniol, Argae uffernol, Sgidiau ffasiynol, Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion, Cyhoeddus, anweddus, Sefyllfa druenus.
Dw i'n byw a bod Dw i'n byw a bod Arnofio yn y bae yn y baw a'r dod
Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth, Ymfudwn o amaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
Dw i'n byw a bod Dw i'n byw a bod, Arnofio yn y bae yn y baw a'r dod